Fe all Llywodraeth Prydain gymryd penderfyniadau dros ffracio yn lle cynghorau, o dan fesurau newydd.

Fe fydd y Gweinidog Cymunedau, Greg Clark, yn ystyried “galw mewn” cais i dyllu am nwy siâl gan awdurdodau lleol o hyn allan, yn hytrach na gadael y grym yn nwylo awdurdodau lleol.

Os yw cynghorau dro ar ôl dro yn cymryd mwy na’r 16 wythnos statudol i wneud penderfyniad, ac oni bai eu bod wedi cytuno i ymestyn yr amser, fe all y gweinidog wneud y penderfyniad drostyn nhw.

Lloegr yn unig fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau posib. Cyhoeddodd y llywodraeth yr wythnos diwethaf na fyddai trwyddedau newydd olew a nwy yn cael eu caniatáu yng Nghymru na’r Alban cyn i’r pwerau gael eu datganoli.

Cyfrifoldeb y gweinidog hefyd fydd penderfynu ar apeliadau yn erbyn gwrthodiadau cynllunio ac fe fydd y rheiny’n cael blaenoriaeth gan yr Arolygaeth Cynllunio.

Mae Llywodraeth Prydain yn honni y bydd y newid yn dad-gloi’r “potensial anferth” i nwy siâl drwy gyflymu’r broses gynllunio ac nad oes unrhyw un yn elwa o benderfyniadau araf gan gynghorau.

Pryderon gwrthwynebwyr yw y byddai ffracio’n achosi dirgryniadau, llygru cyflenwadau dŵr, arwain at ddatblygiadau amhriodol yng nghefn gwlad a niweidio prisiau tai.

Dywedodd Greg Clark: “Mae potensial anferth ar draws y wlad ar gyfer defnydd saff a chynaliadwy o nwy siâl gan ddarparu ffynhonnell egni lan tymor hir ac i greu swyddi Prydeinig a thwf.

“Fe fydd diogelwch pobol a’r amgylchedd yn parhau i fod yn holl bwysig ac fe fydd cymunedau wastad yn cael eu cynnwys mewn ceisiadau cynllunio.

“Ond does neb yn elwa drwy’n ansicrwydd sy’n cael eu hachosi gan oed mewn penderfyniadau cynllunio.”

Ond fe all bobol golli llais, yn ôl pennaeth ymgyrch egni Greenpeace.

“Mae hi’n bosib na gaiff trigolion lleol unrhyw ddweud os ydi eu tai, cymunedau a pharciau cenedlaethol yn cael eu ffracio,” meddai Daisy Sands.

“Mae yna safonau dwbl yma – yr un llywodraeth  sy’n ceisio caniatáu ffracio ar unrhyw gost sydd newydd roi mwy o bwerau i cynghorau i wrthwynebu ffermydd gwynt, y math glanaf a rhataf o egni.”