Yvette Cooper
Mae Yvette Cooper wedi ymosod ar geffyl blaen ras arweinyddiaeth Y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, gan rybuddio ei fod yn cynnig yr “atebion anghywir i’r dyfodol”.

Mynnodd yr ysgrifennydd cartref cysgodol fod angen “dull mwy ffeministaidd” ar gyfer yr economi er mwyn sicrhau bod gwaith yn cyd-fynd a theuluoedd wrth iddi geisio gwerthu ei hun fel ymgeisydd radical a chredadwy.

Wrth siarad ym Manceinion, dywedodd Yevette Cooper nad oedd yn gwrthod gwerthoedd a bwriad Jeremy Corbyn a’i gefnogwyr.

Ond dywedodd na fyddai’n “boddio” iddynt chwaith gan honni ei bod hi’n “fersiwn fwy etholadwy” o’r hyn y maen nhw’n sefyll amdano.

Dywedodd Yevette Cooper, wnaeth gyfaddef y gall ei sylwadau golli pleidleisiau iddi: “Y gwir yw bod Jeremy yn cynnig hen atebion i hen broblemau – nid atebion newydd i broblemau heddiw.

“Rwy’n deall fod gan Jeremy gefnogaeth gref ond rwy’n teimlo’n wirioneddol gryf, nid dim ond fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth ond fel aelod o’r Blaid Lafur sydd bron a marw eisiau llywodraeth Lafur effeithiol.”