Llun cyhoeddusrwydd o wefan asiantaeth recriwtio Bwylaidd
Mae tua 5 miliwn o bobol dramor yn gweitio yn y Deyrnas Unedig, yn ôl y ffigurau diweddara’.
Mae hynny’n cynnwys 2 filiwn o’r tu mewn i’r Undeb Ewropeaidd – y mwya’ erioed – a bron 3 miliwn o wledydd eraill.
Llai na hanner y gweithwyr o’r Undeb sy’n dod o wyth gwlad Dwyrain Ewrop – cyfanswm o 973,000.
Er hynny, fe fu cynnydd o tuag 20% yn nifer y gweithwyr o Bwlgaria a Romania – i fyny i 189,000 o’i gymharu â’r un amser y llynedd.
Roedd cyfyngiadau ar nifer y gweithwyr oddi yno wedi dod i ben ym mis Ionawr eleni.
‘Dal i ddod’
Tra bydd economi gwledydd Prydain yn gymharol gryf ac economi’r Undeb Ewropeaidd yn gymharol wan, fe fydd y mudo’n parhau, meddai Carlos Vargas-Silva, arbenigwr ar gyflogaeth o Brifysgol Rhydychen.
Roedd y ffigurau am ymfudwyr yn rhan o gyhoeddiad y ffigurau diweithdra.