Mae dyn wedi cyfadde’ llofruddio’r fyfyrwraig o Iwerddon, Karen Buckley, wedi iddi ddiflannu ar noson allan yn ninas Glasgow.

Fe blediodd Alexander Pacteau, 21, yn euog pan ymddangosodd gerbron Uchel Lys y ddinas heddiw. Roedd wedi taro Karen Buckley dro ar ol tro ar ei phen gyda sbaner.

Fe fu chwilio mawr am y fyfrwraig 24 oed o dre’ Corc ym mis Ebrill eleni, wedi iddi gael ei riportio ar goll o’r fflat yr oedd hi’n ei rannu gyda’i ffrindiau yng ngorllewin Glasgow.

Daethpwyd o hyd i’w chorff rai dyddiau’n ddiweddarach ar dir fferm ar gyrion y ddinas.