Mae cwmni Network Rail mewn peryg o gael dirwy o £2m am dorri amodau ei drwydded waith.

Yn dilyn ymchwiliad gan y corff goruchwylio rheilffyrdd, ORR, fe gofnodwyd fod perfformiad y cwmni wedi tangyflawni o ran ymateb i gwynion teithwyr ar linellau y De, llinell y Thameslink, ac yn Yr Alban; yn ogystal â methu cyrraedd targedau amser.

Roedd traean yr achosion o drenau hwyr Network Rail yn rhanbarthau’r Southern Rail a’r GTR, ac roedd bron i hanner y gwasanaethau gafodd eu canslo ar reilffyrdd yn Lloegr a Chymru.