Mae 18 o bobl sy’n cael eu hamau o fod yn fewnfudwyr anghyfreithlon wedi cael eu darganfod yn cuddio mewn lori ar draffordd yr M1.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw ar ôl i aelod o’r cyhoedd gysylltu â nhw  brynhawn ddoe yn mynegi ei amheuon.

Dywed llefarydd ar ran heddlu swydd Hertford fod gyrrwr y lori, dyn 40 oed o wlad Pwyl, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o helpu pobl i ddod i Brydain yn anghyfreithlon.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw yn fuan wedi 4pm yn sgil adroddiad am weithgaredd amheus ar lori ar draffordd yr M25.

Cafodd y lori ei stopio ger cyffordd 9 yr M1 yn Flamstead, swydd Hertford.

“Aed â 18 o bobl y credir eu bod wedi dod i Brydain yn anghyfreithlon ar y lori, i’r ddalfa er mwyn eu diogelwch,” meddai’r llefarydd ar ran yr heddlu.