Mae undebau llafur wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fod yn “sbeitlyd” ar ôl datgelu cynlluniau i ddileu’r drefn lle gall gweithwyr gyfrannu’n ariannol i’r undebau drwy eu cyflogau.

Mae gweinidogion y llywodraeth yn mynnu bod yr hen drefn yn hynafol, a’i fod yn fwrn ar drethdalwyr.

Ond mae undebau’n rhybuddio y bydd y drefn newydd yn niweidio’r berthynas o fewn y byd diwydiannol, gan gyhuddo’r llywodraeth o “ymosod yn wleidyddol” ar weithwyr.

‘Sbeitlyd’

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Uno’r Undeb, Gail Cartmail: “Dyma fesur sbeitlyd arall gan y Ceidwadwyr ar adeg pan fo angen gweithwyr am undebau yn fwy nag erioed o’r blaen.

“Mae’n ymgais di-chwaeth i amddifadu undebau llafur o arian sy’n cael ei ddefnyddio bob dydd i hyrwyddo hyfforddiant, diogelwch yn y gweithle a chynnal cyflog rhesymol i filiynau o bobol sy’n gweithio ym mhob rhan o’r DU.”

Ychwanegodd fod y cynllun yn “ymyrraeth ddi-angen” gan y llywodraeth sy’n “ddi-glem am realiti bywyd gwaith”.

Dywedodd fod y cynllun yn “ymosodiad maleisus, di-angen unwaith eto ar y bobol sy’n asgwrn cefn ein gwasanaethau cyhoeddus”.

‘Colli eu llais’

Dywedodd ysgrifennydd cynorthwyol y TUC, Paul Nowak fod yr hen drefn yn parhau’n boblogaidd ymhlith gweithwyr.

Ychwanegodd fod y cynllun yn ymgais i sicrhau bod “gweithwyr yn colli eu llais a’u hawliau”.

Wrth ymateb, dywedodd un o weinidogion y Swyddfa Gabinet, Matthew Hancock: “Yng nghyfnod yr unfed ganrif ar hugain o ddebyd uniongyrchol a thaliadau digidol, ni ddylid defnyddio adnoddau cyhoeddus i gefnogi’r casgliad o danysgrifiadau i undebau llafur.”

Ychwanegodd fod angen “moderneiddio’r berthynas rhwng undebau llafur a’u haelodau”, ac y byddai’r drefn newydd yn “sicrhau mwy o dryloywder i weithwyr”.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb PCS fod y cynllun yn “hollol ddi-angen ac yn ymosodol”.

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol Unsain fod y cynllun yn un “maleisus”.