Mae cwch yn cludo tua 700 o ymfudwyr wedi troi drosodd ym Mor y Canoldir ac mae na ofnau bod “nifer sylweddol” wedi marw.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 25 milltir oddi ar arfordir Libya pan aeth y cwch i drafferthion gan arwain at ymgyrch achub.

Mae’r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Ymfudo (IOM) yn dweud eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau bod hyd at 700 o ymfudwyr wedi bod ar fwrdd y cwch.

Dywedodd llefarydd ar ran IOM bod adroddiadau bod “nifer sylweddol” o bobl wedi marw neu wedi’u hanafu ac mae dwsinau wedi cael eu hachub o’r môr.

Mae un o longau Llynges Iwerddon, LE Niamh, wedi cael ei hanfon i’r safle.

Ddyddiau’n unig yn ôl roedd yr IOM wedi rhybuddio bod nifer yr ymfudwyr sydd wedi marw tra’n ceisio croesi Mor y Canoldir eleni wedi cyrraedd 2,000 o’i gymharu â 3,279 yn ystod 2014.