Loriau'n ciwio yn Calais (PA)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth heddiw i drafod argyfwng yr ymfudwyr a’r ceiswyr lloches yn Calais.

Fe fydd David Cameron yn gofyn i adrannau llywodraeth a oes modd gwneud mwy i ddatrys y broblem, wrth i filoedd o bobol geisio croesi’r Sianel.

Ac mae adroddiad papur newydd yn awgrymu y gallai’r Fyddin gael ei defnyddio i helpu llacio pwysau’r traffig yn ne-ddwyrain Lloegr wrth i gannoedd o lorïau a miloedd o geir giwio i geisio croes i Ffrainc.

Yn ôl y Daily Telegraph, fe allai tir yn ardal Folkestone gael ei ddefnyddio gyda milwyr yn helpu i reoli’r sefyllfa.

Pwysau ar wasanaethau gofal

Roedd neithiwr yn gymharol dawel gyda llai nag arfer o ymfudwyr yn ceisio mynd i mewn i Dwnnel y Sianel ond mae Cyngor Sir Kent yn rhybuddio bod yr argyfwng yn rhoi straen ar eu gwasanaethau.

Yn ôl y cyngor, maen nhw bellach yn gorfod delio gyda tua 600 o blant ymfudwyr sydd wedi llwyddo i groesi – os ydyn nhw o dan 18 oed, mae gan y cyngor ddyletswydd i ofalu amdanyn nhw.

Yn ôl cwmni Eurotunnel, mae naw o bobol eisoes wedi marw wrth geisio croesi y mis yma – mae amryw’n ceisio cuddio ar echelau lorïau, neu o dan drênau.

  • Yn y cyfamser, mae un perchennog cwmni lorïau wedi galw am brotest er mwyn dod â’r argyfwng i ben.