Mae Banc Barclays wedi cyhoeddi cynnydd o 25% mewn elw yn ystod chwe mis cynta’r flwyddyn.

Daw’r canlyniadau dros dro, sy’n dangos cynnydd mewn elw cyn treth o £3.11 biliwn, dair wythnos ar ôl diswyddo’r prif weithredwr, Antony Jenkins, oherwydd diffyg cynnydd mewn refeniw.

Daw’r cynnydd er i Barclays dalu mwy na £1 biliwn yn ystod y cyfnod i gwsmeriaid yn dilyn helynt cam-werthu taliadau yswiriant (PPI).

Mae pennaeth dros dro Barclays, John McFarlane, wedi dweud bod yna gynlluniau i gynyddu twf, cwtogi costau a diwygio’r busnes.

Mae ’na awgrymiadau y gallai Barclays gael gwared a 30,000 o swyddi wrth i’r banc ail-strwythuro.

Fe awgrymodd John McFarlane y bydd yn cael gwared a rhannau o’r busnes sydd ddim yn gwneud elw.