Theresa May
Mae ymchwiliad i waith yr heddlu cudd yng Nghymru a Lloegr wedi dechrau heddiw.

Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus, a orchmynnwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref  Theresa May ym mis Mawrth, yn  edrych ar y modd mae’r heddlu wedi ymdreiddio i grwpiau hawliau a gwleidyddol yng Nghymru a Lloegr ers 1968.

Cyhoeddodd Theresa May ei bod am gynnal ymchwiliad ar iddi ddod i’r amlwg fod Scotland Yard wedi bod yn ysbio ar ymgyrchwyr oedd yn ceisio cael cyfiawnder i Stephen Lawrence – y myfyriwr croenddu a gafodd ei lofruddio yn Llundain.

Dywedodd adolygiad annibynnol, o dan arweiniad Mark Ellison, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth y llynedd, fod un o swyddogion yr heddlu wedi darparu gwybodaeth am deulu Stephen  Lawrence.

Bydd y barnwr sy’n arwain yr ymchwiliad, yr Arglwydd Ustus Pitchford, yn cael mynediad at ddogfennau ac yn galw tystion i roi tystiolaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig i lunio adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi o fewn tair blynedd ac a fydd yn cynnwys argymhellion ar ddefnyddio plismona cudd yn y dyfodol.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych i’r defnydd o ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol – gan gynnwys targedu ymgyrchwyr cyfiawnder gwleidyddol a chymdeithasol.