Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i grwner adael ffeil oedd yn cynnwys manylion am y ferch ysgol Alice Gross ar drên.

Roedd Chinyere Inyama, crwner gorllewin Llundain, wedi colli’r ffeil 30 tudalen fis Tachwedd diwethaf, fis ar ôl i gorff y ferch 14 oed gael ei ddarganfod mewn afon.

Roedd y ffeil yn cynnwys tystiolaeth yn erbyn y dyn oedd yn cael ei amau o’i llofruddio, Arnis Zalkalns.

Roedd yr heddlu eisoes wedi dod i’r casgliad bod y ffeil wedi cael ei dinistrio.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam y cafodd y ffeil adael swyddfa’r crwner.

Aeth Alice Gross ar goll o’i chartref a’r ymchwiliad i’w diflaniad oedd yr un mwyaf gan Heddlu Scotland Yard ers cyrchoedd bomio 7/7.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod ar Fedi 30.

Ddyddiau’n ddiweddarach, cafodd corff Zalkalns ei ddarganfod wedi crogi mewn parc.

Roedd Zalkalns eisoes wedi treulio saith mlynedd dan glo am lofruddio’i wraig yn Latfia.

Mae disgwyl i’r cwest i farwolaeth Alice Gross gael ei gynnal ddiwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr.

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd rheithgor ynghlwm wrth y cwest.