Mae aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur wedi galw ar yr arweinydd dros dro, Harriet Harman i ohirio’r etholiad i ddewis arweinydd newydd oherwydd pryderon fod pobol ar adain chwaith y blaid yn ymuno er mwyn dylanwadu ar y canlyniad.

Mae lle i gredu bod hyd at 140,000 o undebwyr sydd i’r chwith o’r blaid yn gymwys i bleidleisio ar ôl ymuno er mwyn cefnogi ymgeisyddiaeth Jeremy Corbyn.

Mae’r Blaid Gomiwnyddol ymhlith y grwpiau sy’n annog eu haelodau i ymuno â’r Blaid Lafur am £3 er mwyn ethol Corbyn, sy’n Aelod Seneddol dros Ogledd Islington.

Ond dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, John Mann wrth bapur newydd y Sunday Times fod y sefyllfa “allan o reolaeth yn llwyr”.

“Dylid ei ohirio. Mae’n dod yn ffars gydag aelodau tymor hir… mewn perygl o gael eu curo gan bobol sydd wedi gwrthwynebu’r Blaid Lafur ac sydd am ei thorri i fyny….”

Mae un o’r pedwar ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, Andy Burnham wedi dweud wrth y Sunday Mirror bod y blaid mewn perygl o chwalu pe na bai’n llwyddo i drechu Jeremy Corbyn.

“Mae Llafur wedi cyrraedd croesffordd, ac rwy’n gofidio os cymerwn ni’r troad anghywir, fod perygl y gallai’r blaid gael ei rhwygo.

“Mae dirfawr angen ar y bobol sy’n cael eu taro’n galed gan y Llywodraeth Dorïaidd hon i Lafur ddod ynghyd a rhoi trefn arni hi ei hun.”

Er gwaetha’r feirniadaeth, mae Jeremy Corbyn yn mynnu mai aelodau ifainc sydd â diddordeb byw mewn gwleidyddiaeth yw’r aelodau newydd ar y cyfan.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar BBC1: “Mae’r aelodau newydd dw i’n eu gweld yn bobol ifainc nad oedden nhw hyd yma wedi cael eu cyffroi gan wleidyddiaeth.”