Jeremy Corbyn (PA)
Mae pwysau’r sefydliad Llafur yn erbyn yr ymgeisydd asgell chwith yn ras yr arweinyddiaeth yn parhau gyda dyn busnes yn rhybuddio y gallai buddugoliaeth i Jeremy Corbyn rwygo’r blaid.
Yn ôl John Mills o gwmni siopa-gartre’ JML, fe fyddai llawer o bobol fusnes yn rhoi’r gorau i gyfrannu at Lafur pe bai Jeremy Corbyn yn ei harwain. Mae ef ei hun yn un o’r prif roddwyr preifat i’r blaid.
Peter Mandelson – yr Arglwydd Mandelson – yw un arall o ochr ‘Llafur Newydd’ y blaid sydd wedi ymosod ar Jeremy Corbyn, gan ddweud y byddai’r blaid yn peidio â bod yn blaid lywodraeth.
SDP arall?
Yn ôl John Mills, fe allai buddugoliaeth i Jeremy Corbyn arwain at rwyg tebyg i’r un ar ddechrau’r 1980au pan adawodd nifer o aelodau amlwg i ffurfio plaid yr SDP.
Ond roedd hefyd yn cydnabod y gallai’r undebau llafur gyfrannu mwy at y blaid – mae nifer o’r undebau mwya’n cefnogi Jeremy Corbyn yn erbyn y ddau ymgeisydd yn y canol, Andy Burnham ac Yvette Cooper, a’r un ar y dde, Liz Kendall.
Mae hi wedi gwrthod galwadau i dynnu’n ôl o’r ras er mwyn helpu un o’r ddau arall i ennill a hi oedd wedi cael cefnogaeth John Mills.
Prescott yn ymosod ar Blair
Yn y cyfamser, mae’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, John Prescott, wedi ymosod ar ei hen fos, Ton Blair, am ei sylwadau’n gwrthwynebu Jeremy Corbyn.
Roedd ei awgrym y dylai pobol oedd a’u calon ar y chwith “gael trawsblaniad” yn gwbl annerbyniol, meddai’r Arglwydd Prescott.
Penderfyniad Tony Blair i fynd i ryfel yn erbyn Irac oedd wedi colli cefnogaeth i’r Blaid Lafur, meddai.