Mae gweithwyr sector cyhoeddus yn dal i wynebu mwy o galedi cyflog na rhai yn y sector preifat.

Mae ymchwil newydd yn dangos bod codiadau cyflog yn gyffredinol wedi aros ar 2% yn ystod y chwarter diwetha’, ond bod gweithwyr sector cyhoeddus yn derbyn llai.

Fe fydd hynny’n cael mwy o effaith ar economi Cymru lle mae cyfraniad y sector cyhoeddus yn uchel.

Fe ddangosodd ymchwil y cwmni XpertHR bod hanner y codiadau cyflog rhwng 1.5% a 2.5%, ond fod un o bob chwech yn 3% neu fwy.

Fe rybuddiodd Sheila Atwood o’r cwmni y byddai’r gwahaniaeth rhwng cyflogau’r ddau sector yn parhau i gynyddu “am lawer o flynyddoedd i ddod.”