Fe fydd cyfreithwyr o Gymru ymhlith y rhai fydd yn gwrthod derbyn achosion sydd wedi’u hariannu gan gymorth cyfreithiol, a hynny mewn protest yn erbyn toriadau Llywodraeth San Steffan.
Bydd ffioedd cyfreithwyr yn gostwng 8.75% ychwanegol o heddiw ymlaen, sy’n golygu toriad o 17.5% ers y llynedd.
Roedd pryderon fod cyllideb y cynllun yn “sylweddol uwch” nag yng ngwledydd eraill Ewrop.
Mae Cymdeithas Cyfreithwyr y Gyfraith Droseddol wedi rhybuddio bod eu haelodau’n gwrthod gweithio ar y cyfraddau sy’n cael eu cynnig.
Dywedodd y cadeirydd, Bill Waddington ei fod yn disgwyl i’r sefyllfa waethygu dros gyfnod o amser yn sgil y toriadau.
“Mae’r system gyfiawnder troseddol yn mynd ar chwâl o ganlyniad i’r toriadau hyn ac os nad ydyn ni’n cymryd camau difrifol nawr, fe fydd mynediad i gyfiawnder yn cael ei ddinistrio gan y cynigion a nifer o bobol ddiniwed ac ifanc yn dioddef oherwydd diffyg cyfiawnder.”
Fis diwethaf, cafodd Llywodraeth Prydain eu beirniadu gan Gymdeithas y Gyfraith am fwrw ymlaen gyda chynlluniau i dorri nifer y cytundebau cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfreithwyr yr heddlu o 1,600 i 527.