Y Canghellor George Osborne
Fe wnaeth economi Prydain dyfu yn well na’r hyn oedd wedi ei ragweld yn chwarter cyntaf y flwyddyn, dangosodd y ffigyrau swyddogol.

Roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi codi 0.4% rhwng mis Ionawr a mis Mawrth o’i gymharu â’r amcangyfrif gwreiddiol o 0.3%.

Twf yn y diwydiant adeiladu a nwyddau tŷ oedd y prif reswm tros y cynnydd mewn GDP, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond mae’r ffigwr yn parhau yn is na’r cynnydd o 0.6% yn nhri mis olaf 2014, lle gwelwyd y GDP yn tyfu yn gynt na’r naw mlynedd diwethaf.

Cafodd y ffigyrau eu croesawu gan y Canghellor George Osborne, cyn iddo gyhoeddi ei Gyllideb yn yr haf.