Yr Arglwydd Janner, y cyn-AS Llafur Greville Janner (llun: PA)
Mae penderfyniad i beidio ag erlyn y gwleidydd Llafur yr Arglwydd Janner ar honiadau o gam-drin plant yn debyg o gael ei wrthdroi yr wythnos nesaf.

Mae hyn ar ôl i QC annibynnol adolygu penderfyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Mae’r cyn-AS Llafur yn dioddef o dementia difrifol, ond mae disgwyl cyhoeddiad yr wythnos nesaf y dylai’r honiadau gael eu clywed mewn llys.

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi ym mis Ebrill na fyddai’n cyhuddo’r dyn 86 oed, ond cytunodd ym mis Mai i adolygu’r penderfyniad dadleuol.

Mae’r Arglwydd Janner, a fu’n Aelod Seneddol Gorllewin Caerlŷr am 27 mlynedd,  yn wynebu cyfres o honiadau o gam-drin plant yn ystod yr 1960au, 70au ac 80au. Mae ei deulu’n gwadu unrhyw honiadau o’r fath yn ei erbyn.