David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud ei fod “wrth ei fodd” yn dilyn trafodaethau gydag arweinwyr eraill Ewrop wrth iddo ddechrau trafod aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Er hynny, chafodd Prif Weinidog Prydain ddim cymaint o amser ag yr oedd wedi gobeithio amdano yn ystod uwchgynhadledd Cyngor Ewrop – roedd mwy o sylw ar ddeilio â mewnfudwyr a’r argyfwng economaidd yng Ngwlad Groeg.

Ac fe rybuddiodd Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, cyn-brif weinidog Gwlad Pwyl, na fyddai Prydain yn cael ei ffordd ei hun yn gyfan gwbl.

“Dylai un peth fod yn glir o’r dechrau. Dyw gwerthoedd sylfaenol yr UE ddim ar werth a fyddan nhw ddim yn cael eu trafod. Fe ddylen ni ystyried pryderon Prydain, ond dim ond mewn ffordd sydd yn saff i Ewrop gyfan,” meddai.

Dechrau trafod

Yn ystod y cyfarfod ddoe, cafwyd cytundeb a fydd yn gweld gwledydd eraill Ewrop yn gwirfoddoli i dderbyn rhai o’r 40,000 o fewnfudwyr sydd wedi croesi Môr y Canoldir i’r Eidal a Groeg.

Oherwydd y sylw i hynny, llai na deg munud a gafodd David Cameron i siarad â’r arweinwyr eraill er mwyn trafod rhai o’i bryderon.

Mae’r rheiny yn cynnwys ceisio cwtogi budd-daliadau lles i fewnfudwyr o Ewrop, yr awydd i beidio â gweld yr Undeb Ewropeaidd yn closio fwy at ei gilydd, a mwy o bwerau i wledydd sydd ddim yn rhan o’r Ewro.

‘Wrth fy modd’

“Dw i wrth fy modd fod y broses o ddiwygio ac aildrafod lle Prydain [yn Ewrop], a’r refferendwm fyddwn ni’n ei chynnal, nawr wedi dechrau o ddifrif,” meddai’r Prif Weinidog, sydd yn awyddus i gynnal pleidlais ar aros neu adael yr UE erbyn diwedd 2017.

Mae swyddogion Llywodraeth Prydain wedi cyfaddef ei bod hi’n bosib na fydd y cytundebau Ewropeaidd wedi cael eu newid erbyn i’r refferendwm gael ei chynnal cyn diwedd 2017.