Llun camera cylch cyfyng o Zack Davies yn mynd i mewn i'r archfarchnad
Fe ddylai ymosodwr hiliol o Gymru fod wedi cael ei erlyn am frawychaeth yn hytrach nag am geisio llofruddio, meddai brawd y dyn a gafodd ei anafu’n ddifrifol iawn yn yr ymosodiad.
Mae Zack Davies yn aros i gael ei ddedfrydu ar ôl i Lys y Goron ei gael yn euog o geisio llofruddio’r deintydd Sarandev Bhambra mewn archfarchnad yn yr Wyddgrug – a hynny oherwydd ei fod yn Asiaidd.
Pe bai’r drefn hiliol fel arall – a dyn o Asia wedi ymosod ar ddyn gwyn – fe fyddai’r achos wedi cael ei alw’n frawychaeth, meddai Tarlochan Singh Bhambra.
“Does gyda ni ddim amheuaeth, o ystyried yr ysgogiad hiliol a gwleidyddol, y dylai hon fod wedi ei diffinio yn weithred o frawychaeth,” meddai ar ôl yr achos.
Dim lle i anoddefgarwch hiliol
“Fe gafodd Sarandev ei ddewis oherwydd lliw ei groen,” meddai ei frawd. “Mae anoddefgarwch hiliol yn perthyn i’r gorffennol a ddylai o ddim cael ei oddef.”
Fe ddywedodd ei bod yn ddyletswydd ar y cyfryngau i dynnu sylw at agweddau hiliol yr achos ac at oblygiadau “pwysig” hynny.
Roedd Zack Davies wedi cyfadde’i fod yn aelod o fudiadau hiliol a’i fod yn credu yng ngoruchafiaeth pobol wyn.