Syr Chris Woodhead
Mae’r cyn brif arolygydd ysgolion, Syr Chris Woodhead,  oedd a chlefyd niwronau motor, wedi marw yn 68 oed.

Roedd Syr Chris Woodhead, a fu’n byw yn ardal Llanfrothen yng Ngwynedd am nifer o flynyddoedd, yn brif arolygydd ysgolion am chwe blynedd hyd at 2000 gan wrthdaro’n ffyrnig ar adegau gydag undebau athrawon.

Ymddiswyddodd fel prif arolygydd ysgolion ar ôl cyfres o ddadleuon gyda’r Ysgrifennydd Addysg ar y pryd, David Blunkett.

Cafodd wybod ei fod yn dioddef o glefyd niwronau motor yn 2006 a dywedodd yn 2009 y byddai’n well ganddo ladd ei hun na marw mewn poen o’r clefyd.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd fod ganddo hefyd ganser y coluddyn a oedd wedi lledu i’w iau.