Syr John Chilcot
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud ei fod yn “colli amynedd yn gyflym” ynghylch yr oedi cyn cyhoeddi adroddiad ar y rhyfel yn Irac.

Mae cadeirydd yr ymchwiliad, Syr John Chilcot wedi dweud nad oes sicrwydd pryd y bydd yn cyhoeddi’r adroddiad.

Mewn cyfres o lythyron, dywedodd Chilcot wrth Cameron fod “materion newydd” wedi codi yn sgil ymatebion i’r ymchwiliad.

Dydy rhai ymatebion ddim wedi cael eu cyflwyno hyd yn hyn.

Dywedodd Cameron wrth Chilcot mewn llythyr arall ei fod yn “siomedig” fod y cyhoedd a theuluoedd rhai fu farw yn ystod y rhyfel yn “aros am ganlyniadau eich gwaith”.

“Roedden nhw, a minnau, wedi gobeithio y byddai eich adroddiad wedi’i gyhoeddi erbyn nawr ac rydym yn colli amynedd yn gyflym.”