Roedd bachgen 14 oed, y cafwyd hyd i’w gorff mewn mynwent yn Carlisle yn Cumbria ddoe, wedi dioddef “ymosodiad ciaidd” meddai’r heddlu.

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth Jordan Watson ar y gweill ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod yn Heol Manor, Carlisle yn gynnar ddydd Mawrth.

Roedd archwiliad post mortem wedi dangos ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i wddf.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan lygad dystion a allai fod wedi gweld rhywun yn yr ardal ar y pryd.

Mae swyddogion heddlu ychwanegol ar ddyletswydd yn ardal Carlisle wrth i’r ymchwiliad barhau.