Syr John Hurt
Mae’r actor Syr John Hurt wedi cael diagnosis o ganser, ond dywedodd y bydd yn parhau i weithio a’i fod yn “optimistaidd” am ei ddyfodol.

Mae’r actor 75 mlwydd oed wedi cael gyrfa lwyddiannus gyda rhannau nodedig ym myd ffilm gan gynnwys Quentin Crisp yn ‘The Naked Civil Servant’ ac fel John Merrick yn ‘The Elephant Man’.

Yn fwy diweddar, bu’n cymryd rhan yn ffilmiau Harry Potter fel Mr Ollivander.

Mewn datganiad a ryddhawyd heddiw, dywedodd John Hurt ei fod wedi cael diagnosis yn ddiweddar am ganser y pancreas a’i fod yn derbyn triniaeth ar ei gyfer.

Ychwanegodd mai ei brosiect actio nesaf fydd recordio ‘Jeffrey Bernard Is Unwell’ i Radio 4,a’i fod wedi sylwi ar eironi’r teitl.