Y Canghellor George Osborne
Roedd cyfradd chwyddiant wedi codi o ffigyrau negyddol i 0.1% fis diwetha’, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cynnydd mewn prisiau bwyd, tanwydd a theithiau awyr sydd i gyfrif am y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).

Ym mis Ebrill, fe syrthiodd y gyfradd i -0.1% am y tro cyntaf ers 1960.

“Roedd hynny yn sgil gostyngiad ym mhrisiau teithio am ei bod hi’n wyliau Pasg. Ond mae’r cwymp hwnnw nawr wedi dod i ben,” meddai’r ystadegydd Philip Gooding o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ychwanegodd y Canghellor George Osborne bod y cynnydd yn “newyddion da ar gyfer pobol a theuluoedd sy’n gweithio”.