Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn darparu gofal o ansawdd uchel ar y cyfan ac yn cymryd camau i wella gwasanaethau lle bo angen, yn ôl prif weithredwr GIG Cymru.

Ond dywedodd Dr Andrew Goodall  “bod rhaid inni ddysgu o’n camgymeriadau.”

Mae Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn rhoi trosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan holl sefydliadau GIG Cymru i wella ansawdd gofal i bobl sy’n byw yng Nghymru.

Daw sylwadau Dr Andrew Goodall gwta wythnos ers i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei rhoi o dan fesurau arbennig. Pwysleisiodd fod yn rhaid i’r GIG barhau i wella er mwyn gallu darparu’r gofal gorau i gleifion.

‘Gofal o ansawdd uchel’

Dywedodd Dr Andrew Goodall: “Rhaid i GIG Cymru barhau i wella er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i bobl a’u teuluoedd ar draws y wlad pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

“Mae diwallu anghenion cleifion gydag urddas a pharch yn bwysig iawn i’r GIG. Os nad yw hyn yn digwydd, rydyn ni wedi gweithredu. Ein hegwyddor sylfaenol yw bod yn rhaid inni ddysgu o’n camgymeriadau.

“Uwchlaw popeth, rydyn ni i gyd am weld gofal diogel a thosturiol yn cael ei ddarparu. Byddwn yn gweithredu ar adborth ac yn gweithio gyda’r cyhoedd a staff GIG i barhau i sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd gwirioneddol genedlaethol y gallwn barhau i fod yn falch ohono.”

Gwelliannau

Yn y Datganiad Ansawdd Blynyddol mae disgrifiadau o rai o’r gwelliannau a wnaed y llynedd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mwy o archwiliadau iechyd llygaid yn y gymuned er mwyn osgoi apwyntiadau ysbyty;
  • Gwelliannau i ofal pobl ar ddiwedd oes;
  • Camau i wneud gwasanaethau dementia’r GIG yn fwy hwylus;
  • Lleihad yn nifer y bobl sy’n datblygu heintiau mewn ysbytai – marwolaethau o MRSA wedi gostwng 34%; heintiau Clostridium difficile wedi gostwng 18%;
  • Lefelau brechu ar eu huchaf.

Angen gwella

Yn ôl canlyniadau’r arolwg cenedlaethol diweddaraf, ar y cyfan mae 91% o bobl yn fodlon iawn â’r gofal a gawsant gan GIG Cymru.

Ond nid da lle gellir gwell, ac mae’r datganiad hefyd yn cynnwys nifer o feysydd allweddol fydd y GIG yn ceisio ei wella yn ystod y flwyddyn nesaf, gan gynnwys:

  • Helpu pobl i ofalu a bod yn gyfrifol am eu hiechyd eu hunain;
  • Datblygu gwasanaethau cydgysylltiedig gyda gwasanaethau statudol eraill fel bod modd darparu gofal yn agosach i’r cartref, a gweithio i atal unrhyw oedi i driniaethau pan fydd rhaid i bobl gael eu derbyn i ysbyty;
  • Parhau i weithredu argymhellion Ymddiried mewn Gofal a chanfyddiadau’r hapwiriadau dilynol o wardiau meddygol ac iechyd meddwl mewn ysbytai;
  • Nodi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia cyn gynted ag y bo modd fel eu bod yn cael y gofal gorau posibl.