Y Canghellor George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi y bydd y Llywodraeth yn dechrau gwerthu ei siâr yn y Royal Bank of Scotland (RBS), saith mlynedd ers y cwymp ariannol.

Dywedodd George Osborne ei fod wedi dod i’r penderfyniad ar ôl i adolygiad annibynnol ddod i’r casgliad y byddai unrhyw golled i’r trethdalwr yn cael ei ad-dalu o’r elw o werthu cyfrannau mewn banciau eraill, gan gynnwys ei siâr yng ngrŵp bancio Lloyds.

Mae Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, wedi rhoi sêl bendith i werthu cyfrannau RBS, gan rybuddio y byddai oedi pellach yn arwain at rhagor o golledion i’r trethdalwr.

Roedd y cyn Lywodraeth Lafur wedi rhoi £45.4 biliwn i geisio achub RBS – gan gymryd siâr o 79% yn y banc – yn sgil y cwymp ariannol yn 2008.

Yn ei araith flynyddol yn Mansion House neithiwr, dywedodd George Osborne y byddai’n cymryd “rhai blynyddoedd” i gwblhau’r gwerthiant oherwydd maint y siâr sydd gan y Llywodraeth yn y banc.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad dywedodd y Canghellor mai “dyma’r peth iawn i’w wneud i fusnesau Prydain a threthdalwyr Prydain.”

Serch hynny mae’r SNP a Llafur wedi beirniadu’r cyhoeddiad gan ddweud bod yn rhaid sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwerth am arian.

‘Cosbau llymach’

Yn y cyfamser mae Mark Carney wedi galw am gosbau llymach i fanciau a masnachwyr sy’n torri’r rheolau.

Dywedodd bod angen ehangu’r ddedfryd y gallen nhw ei wynebu o saith mlynedd i hyd at 10 mlynedd o garchar. Mae’n dilyn cyfres o sgandalau yn y Ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.