David Miliband
Mae David Miliband wedi lladd ar y Blaid Lafur ac arweinyddiaeth ei frawd Ed, gan gyhuddo’r blaid o edrych i’r gorffennol.

Daw sylwadau’r brawd hŷn wrth i’r blaid ddechrau ystyried olynydd i Ed Miliband.

Mae Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall eisoes wedi sicrhau’r 35 o bleidleisiau sy’n angenrheidiol er mwyn cymeradwyo eu hymgeisyddiaeth.

Ond mae Jeremy Corbyn (12 o bleidleisiau) a Mary Creagh (chwech o bleidleisiau) ymhell o fod yn barod i daflu eu henwau i’r cylch.

Bydd yr enwebiadau’n cau ar Fehefin 15.

Ond eisoes, mae’r tri cheffyl blaen wedi cael eu beirniadu gan aelodau o undeb GMB am wrthod lladd ar gynlluniau’r Ceidwadwyr i ostwng y cap budd-daliadau i £23,000.

‘Angen dysgu gwersi’

Mewn cyfweliad â CNN yn yr Unol Daleithiau, dywedodd David Miliband fod angen i’r Blaid Lafur ddysgu gwersi cyn gallu symud ymlaen.

“Dw i’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw i’r holl ymgeiswyr ystyried y gwersi amlwg iawn sy’n deillio o’r Blaid Lafur yn colli dau etholiad mewn modd ysgytwol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sydd wedi digwydd am reswm amlwg iawn.”

Ychwanegodd fod y Blaid Lafur “wedi troi’r dudalen yn ôl yn hytrach na throi’r dudalen ymlaen”, a bod angen i’r ymgeiswyr ail-ddarganfod brwdfrydedd o ran yr economi a chyfiawnder cymdeithasol.

Ychwanegodd hefyd fod y Blaid Lafur yn parhau’n gryf yn ninasoedd gogledd Lloegr, a bod angen cynyddu eu hapêl mewn ardaloedd eraill.

“Mae’r arweinwyr llywodraeth leol hynny’n sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ymhlith plaid genedlaethol y mae angen iddi ddal i fyny gyda’r ffordd mae Prydain wedi newid, y ffordd mae gwleidyddiaeth wedi newid a’r math o agenda sydd angen ei gosod mewn oes o ansicrwydd economaidd sy’n bodoli ar draws Ewrop ar hyn o bryd.”

Wrth drafod ei frawd, dywedodd David Miliband: “Dw i ddim am iddo gael loes a dw i ddim am iddo gael ei bardduo.

“Does dim cysur mewn unrhyw fath o gyfiawnhad, i fod yn blwmp ac yn blaen, gan fy mod i’n gofidio am y wlad ac am y blaid.”