Mae ymgeiswyr arweinyddiaeth y Blaid Lafur heddiw wedi siarad am y dasg o ailadeiladu’r blaid yn sgil colli’r etholiad cyffredinol.

Roedd y pum ymgeisydd, Jeremy Corbyn, Andy Burnham, Yvette Cooper, Liz Kendall a Mary Creagh, yn wynebu cwestiynau yng nghynhadledd flynyddol undeb y GMB yn Nulyn.

Dywedodd Liz Kendall fod y blaid o dan “fygythiad marwol”, gan ychwanegu fod yn rhaid i’r blaid newid neu wynebu fod yn “amherthnasol” yn y byd sydd ohoni.

Cafodd Jeremy Corbyn, yr ymgeisydd mwyaf adain chwith, gymeradwyaeth wresog wrth ddweud fod polisi’r Ceidwadwyr o gael uchafswm budd-daliadau o £23,000 yn annheg.

Ymgyrch yn ‘rhy gul’

Meddai Andy Burnham fod Llafur wedi colli cysylltiad â nifer o gefnogwyr ac yn cael ei ystyried fel “elit San Steffan” ac yn siarad mewn “cod gwleidyddol”.

Dywedodd Mary Creagh fod pobl yn ymddiried yn Llafur i gynnal y Gwasanaeth Iechyd, cynghorau ac ysgolion, ond fod amheuon am ei gallu i redeg yr economi.

Yn ol Yvette Cooper roedd ymgyrch etholiadol Llafur wedi bod yn rhy “gul”, gan ychwanegu y dylai’r blaid geisio denu pleidleiswyr oedd wedi cael eu “gadael ar ôl”.

Dywedodd pob un o’r pum ymgeisydd nad oeddent yn credu fod maniffesto etholiadol Llafur yn rhy adain chwith, ac fe wnaeth Andy Burnham ganmol y cyn arweinydd Ed Miliband am bolisïau’r blaid.

A phan ofynnwyd iddyn nhw sut all Llafur ennill tir eto yn yr Alban, cytunodd y pump fod yn rhaid i’r blaid ailgysylltu gyda phleidleiswyr.