Mae canlyniad yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Orkney a Shetland yn cael ei herio gan ymgyrchwyr a gyflwynodd ddeiseb i’r Llys Sesiwn yng Nghaeredin ddoe.

Bwriad yr ymgyrchwyr yw gorfodi is-etholiad ar ôl i’r buddugwr, cyn-ysgrifennydd yr Alban, Alistair Carmichael gyfaddef ar ôl yr etholiad iddo ddweud celwydd.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Carmichael wedi caniatáu i gofnod cyfrinachol gael ei ryddhau a oedd yn honni bod Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud y byddai’n well ganddi weld David Cameron nag Ed Miliband fel prif weinidog.

Roedd Carmichael wedi gwadu hyn yn gyson drwy’r ymgyrch etholiadol.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, petai etholwyr yr ynysoedd yn gwybod iddo ddweud celwydd, gallai’r canlyniad fod yn wahanol.

Cafodd yr ymgyrch, o’r enw ‘The People Versus Carmichael’ ei sefydlu gan ddau o drigolion Orkney, Fiona MacInnes a Tim Morrison.

“Mae etholwyr Orkney a Shetland yn gofyn i’r llysoedd archwilio’r broses etholiadol yno dros gyfnod yr etholiad, ac i weld a gafodd ei rhedeg yn briodol ac yn deg,” meddai Fiona MacInnes.

Alistair Carmichael yr unig AS sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl yn yr Alban, ac mae wedi dod o dan bwysau cynyddol i ymddiswyddo dros yr wythnos ddiwethaf.