Parhau mae’r trafodaethau rhwng Network Rail ac undeb y gweithwyr rheilffordd i geisio datrys anghydfod ac osgoi streic.

Mae aelodau undeb yr RMT wedi trefnu streic 24 awr yn cychwyn nos Iau nesaf, a streic am 48 awr yr wythnos wedyn yn sgil anghydfod ynghylch cyflogau.

Ar ôl i’r ddwy ochr gytuno i gyd-drafod gyda’r gwasanaeth cymodi Acas, fe gychwynnodd y trafodaethau ddoe ac maen nhw’n parhau y bore yma.

“Mae’r trafodaethau wedi cychwyn a bydd ein tîm llawn yn Llundain y bore yma i symud y bargeinio ymlaen,” meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr RMT.

“Mae’r RMT wedi ymrwymo’n llawn i ddatrys yr anghydfod ac fe fyddwn ar gael yn Llundain am drafodaethau drwy’r penwythnos a’r tu hwnt er mwyn sicrhau setliad.”

Cafodd streic a oedd wedi’i threfnu dros ŵyl y banc ddechrau’r wythnos ei gohirio wedi i Network Rail wneud cynnig tâl newydd, cynnig sydd bellach wedi’i wrthod.