Mae beiciwr 29 oed yn derbyn triniaeth ysbyty am anafiadau difrifol ar ôl iddo gael ei daro gan fws ar Ffordd Crwys, Caerdydd, brynhawn ddoe.

Mae Heddlu De Cymru’n awyddus i siarad ag unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad, unrhyw un a arhosodd i helpu, neu a welodd y bws yn cael ei yrru ychydig ynghynt. Maen nhw’n apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu 0800 555 111.

Fe fu’r ffordd ar gau am ddwy awr tra oedd yr heddlu’n gwneud eu hymchwiliadau cychwynnol i’r digwyddiad.