Tom Hayes
Roedd masnachwr wedi ei ysgogi gan farusrwydd ac wedi ymddwyn yn hollol anonest wrth iddo arwain ymdrech i geisio dylanwadu ar gyfraddau llog, clywodd llys heddiw.

Honnir bod Tom Hayes, 35, wedi “gwneud popeth yn ei allu” i ddylanwadu ar gyfraddau llog Libor, sy’n cael eu defnyddio i benderfynu prisiau nwyddau ariannol fel morgeisi.

Mae’r cyn fasnachwr gyda UBS a Citigroup yn gwadu wyth cyhuddiad o gynllwynio i dwyllo yn y cyfnod rhwng 2006 a 2010.

Dywedodd Mukul Chawla QC, ar ran yr erlyniad mai bwriad Hayes “oedd ennill cymaint o arian ag y gallai.”

Pan oedd yn credu nad oedd UBS yn talu digon o gyflog iddo, fe ymddiswyddodd gan symud i Citigroup, clywodd Llys y Goron Southwark.

Ond o fewn misoedd, pan glywodd rheolwyr ynglŷn â’r modd roedd yn gweithredu fe gafodd ei ddiswyddo, meddai’r erlyniad.

“Ei farusrwydd a arweiniodd at ei anonestrwydd ar raddfa eang,” meddai Mukul Chawla QC.

Yn ôl yr erlyniad fe lwyddodd i ddylanwadu ar gyfraddau llog mewn banciau eraill hefyd, nid yn unig y rhai lle’r oedd yn gweithio.

Mae’r achos yn parhau.