Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi cynnydd yn ei elw blynyddol, yn dilyn cyfnod o dorri costau o fewn y cwmni.

Roedd ei elw gweithredol cyn costau trawsffurfio 6% yn uwch na’r llynedd, yn £740 miliwn.

Dywedodd y prif weithredwr Moya Greene bod y cynnydd, gafodd ei gofnodi yn y flwyddyn cyn mis Mawrth, yn well na’r disgwyl.

Gwelwyd cynnydd o 3% yn nifer y parseli a bostiwyd, er bod yr elw o’i fusnes parseli wedi codi o ddim ond 1%. Ond fe welwyd gostyngiad yn nifer y llythyrau gafodd eu postio, gyda’r elw yn disgyn 1%.

Effeithlonrwydd

“Mae ein hymdrech i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd wedi creu perfformiad gwell na’r disgwyl yn y DU,” meddai Moya Greene.

“Mae ein marchnad yn parhau i fod yn heriol, ond rydym ni nawr mewn lle i fedru pwyso am fwy o effeithlonrwydd, twf ac arloesedd – gan barhau i ganolbwyntio ar leihau costau.”

Fe fydd cyfrannau i gyfranddalwyr yn codi o 5% i 21c.