Mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi cynnydd o 6.1% mewn elw cyn treth i £661.2 miliwn.

Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gyhoeddi cynnydd mewn elw ers pedair blynedd – a hynny yn ystod blwyddyn pan oedd M&S wedi cyfaddef nad oedd wedi cyrraedd ei ddisgwyliadau o ran cynnyrch cyffredinol, gan gynnwys dillad.

Mae’r adran ddillad wedi gweld gostyngiad mewn gwerthiant dros y blynyddoedd diwethaf ond fe fu cynnydd o 0.7% mewn gwerthiant yn yr adran yn chwarter ola’r flwyddyn.

Dywedodd y prif weithredwr Marc Bolland bod yr adran fwyd wedi cael blwyddyn hynod o lwyddiannus er gwaetha’r farchnad heriol.