Nigel Farage
Mae arweinyddiaeth Nigel Farage o Ukip wedi dod dan bwysau wrth i ffynhonnell o fewn y blaid awgrymu y dylai roi’r gorau i’w swydd ar ôl i densiynau gynyddu ynglŷn â’r ffordd mae’r blaid yn cael ei rhedeg.
Dylai Farage “gymryd saib” o’i swydd, meddai’r ffynhonnell gan honni nad oedd y blaid wedi ymddwyn mewn ffordd aeddfed ers yr etholiad cyffredinol, ar ôl i Nigel Farage ymddiswyddo cyn i aelodau Ukip fynnu y dylai ddychwelyd i’w swydd.
Daw’r ymosodiad diweddaraf ar Nigel Farage ar ol i Aelod Seneddol Ewropeaidd Ukip, Patrick O’Flynn honni fod yr arweinydd wedi dod yn ddyn “groendenau, ac ymosodol” a oedd yn troi’r blaid yn “gwlt personoliaeth.”
Roedd y ffynhonnell yn cefnogi sylwadau Patrick O’Flynn gan ychwanegu: “Fe fyddai’r rhan fwyaf o bleidiau ar yr adeg yma yn naturiol wedi cymryd cyfle i edrych nôl a chael trafodaeth ddemocrataidd ynglyn a’r ffordd ymlaen.”
Fe fyddai’n “ddoeth petai Nigel yn cymryd saib,” ychwanegodd.