Y Tywysog Charles
Mae’r Tywysog Charles wedi amddiffyn ei benderfyniad i ysgrifennu cyfres o lythyrau at weinidogion San Steffan.

Cafodd y llythyrau eu cyhoeddi yn dilyn brwydr gyfreithiol hir â newyddiadurwr y Guardian, Rob Evans.

Gwnaeth Evans gais trwy’r Ddeddf Ryddid Gwybodaeth i weld y llythyrau cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ Clarence: “Ni all cyhoeddi’r llythyrau preifat ond rwystro ei allu i fynegi pryderon ac awgrymiadau sydd wedi cael eu cyflwyno iddo yn ystod ei deithiau a’i gyfarfodydd.

“Mae Tywysog Cymru’n codi materion o bwys i’r cyhoedd, ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion.”

Ychwanegodd y llefarydd fod dros 600 o gyfarfodydd a digwyddiadau’r flwyddyn yn rhoi “persbectif unigryw” i’r tywysog ar nifer o faterion.

“Weithiau, mae hyn yn ei arwain i gyfleu ei brofiad neu ei bryderon neu awgrymiadau wrth weinidogion, o bob llywodraeth, o ba bynnag blaid, naill ai mewn cyfarfodydd neu ar bapur.

“Mae gweinidogion y llywodraeth wedi’i annog i wneud hynny’n gyson, ac mae nifer wedi croesawu safbwyntiau’r tywysog a’i syniadau ar ystod o bynciau.”

Cynnwys y llythyrau

Ymhlith y llythyrau dan sylw mae hwnnw i gyn-Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon o 2002 i 2005 am ddyfodol carchar Armagh.

Mae’r casgliad yn cynnwys 10 o lythyron gan y tywysog, 14 gan weinidogion San Steffan a thri rhwng ysgrifenyddion preifat.

Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys amaeth, adfywio adeiladau hanesyddol a bwyta’n iach.

Moch daear

Un o’r prif bynciau yw difa moch daear o ganlyniad i’r diciâu.

Yn 2005, gwnaeth y tywysog gais i’r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair i ddifa rhagor o foch daear.

Yn ei lythyr, dywedodd y tywysog: “Rwy’n eich annog i edrych unwaith eto ar gyflwyno cynllun difa moch daear go iawn lle bo angen.

“Alla i ddim deall sut nad oes ots gan y ‘lobi moch daear’ fod miloedd o wartheg gwerthfawr yn cael eu difa, ac eto’n gwrthwynebu cynllun difa dan reolaeth o orboblogaeth o foch daear.”

Cafodd y diwydiant llaeth a chig gryn dipyn o sylw yn y llythyrau hefyd.

Rhyfel Irac

Un o’r prif bynciau llosg yn y llythyrau at Tony Blair yw rhyfel Irac, lle mynegodd y tywysog bryder ym mis Medi 2004 am drafferthion y lluoedd arfog yn ystod y gwrthdaro.

Roedd ei bryderon yn cynnwys diffyg adnoddau a pherfformiad gwael hofrenyddion Lynx y llu awyr.

Dywedodd: “Mae nod y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Llu Awyr o ddosbarthu’r cyfarpar yma’n fyd-eang, fodd bynnag, yn cael ei lesteirio gan berfformiad gwael yr hofrenyddion Lynx presennol mewn tymheredd uchel.

“Serch hynny, mae caffael hofrenyddion newydd yn lle’r Lynx yn destun oedi ac ansicrwydd pellach oherwydd pwysau sylweddol ar y gyllideb amddiffyn.

“Rwy’n ofni bod hyn yn enghraifft arall o ofyn i’n lluoedd arfog wneud swydd heriol eithriadol (yn enwedig yn Irac) heb yr adnoddau angenrheidiol.”

Mae’r llythyrau i’w gweld yn llawn ar wefan Llywodraeth Prydain.