Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond wedi derbyn cyfrifoldeb am faterion tramor yng nghabinet cysgodol ei blaid yn San Steffan.

Cafodd ei benodiad ei gadarnhau gan arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson.

Ymhlith yr aelodau seneddol blaenllaw eraill sydd wedi derbyn cyfrifoldebau penodol mae Joanna Cherry (cyfiawnder a materion cartref), Eilidh Whiteford (gwaith a phensiynau) a’r dirprwy arweinydd Stewart Hosie (economi).

Mae disgwyl i Alex Salmond fod yn flaenllaw yn y frwydr i wrthwynebu cynlluniau’r Ceidwadwyr i gyflwyno refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Salmond ei fod “wrth ei fodd” o gael derbyn y swydd.

“Bydd materion tramor, yn enwedig Ewrop, ymhlith y pynciau llosg yn y senedd hon.

“Mae hyrwyddo safbwynt yr Alban ar y llwyfan rhyngwladol yn brif flaenoriaeth i’r SNP.

“Byddwn yn rhoi llais cryf, cyson yr SNP sy’n gefnogol i Ewrop, i’r byd sydd o blaid datblygu ac sy’n gwrthwynebu anturiaethau milwrol.”

Salmond oedd yr arweinydd adeg y refferendwm cyntaf, ac fe arweiniodd canlyniad siomedig at ei ymddiswyddiad.

Yn ei gyfnod cyntaf yn San Steffan rhwng 1987 a 2010, roedd yn wrthwynebydd i ymyrraeth Nato yn y gwrthdaro yn Kosovo ac i’r rhyfel yn Irac.

Ond mae’n edmygu “rhai agweddau” o arweinyddiaeth Vladimir Putin yn Rwsia.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Willie Rennie bod penodi Alex Salmond i’r swydd yn “gyfystyr â rhoi’r cyfrifoldeb o arwain Banc y Byd i Mr Bean”.

Pwerau ychwanegol

Yn y cyfamser, mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon wedi dweud bod y refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn gyfle am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Mewn araith heddiw, dywedodd Sturgeon fod canlyniad yr etholiad cyffredinol, pan gafodd 56 o aelodau seneddol yr SNP eu hethol, yn profi bod galw am ragor o bwerau yn yr Alban.

“Os yw’r Prif Weinidog a’i Lywodraeth yn driw i’r hyn ddywedon nhw am barchu canlyniad yr etholiad yn yr Alban, yna rhaid iddyn nhw gytuno gyda ni ar broses sy’n adolygu cynigion Comisiwn Smith unwaith eto, gyda’r bwriad o ymestyn datganoli ymhellach.

“Rhaid i’r broses honno gael ei chreu yn yr Alban – ac yn un sy’n cynnwys cymuned ehangach yr Alban.

“Fel sy’n eglur iawn ym maniffesto fy mhlaid, rydym yn credu y dylai Senedd yr Alban symud i gael cyfrifoldeb ariannol llawn.

“Ond ar fyrder, rydym am weld datganoli pwerau dros bolisi cyflogaeth, gan gynnwys isafswm cyflog, lles, trethi busnes, yswiriant gwladol a chydraddoldeb – y pwerau sydd eu hangen er mwyn creu swyddi, datblygu refeniw a chodi pobol allan o dlodi.”