Nigel Farage, arweinydd UKIP
Mae’r heddlu’n ymchwilio i honiad o dwyll etholiadol yn Ne Thanet, y sedd a fethodd arweinydd Ukip Nigel Farage ei hennill yn yr etholiad cyffredinol.

Roedd Craig Mackinlay o’r Ceidwadwyr wedi ennill 18,838 o’r pleidleisiau a Nigel Farage wedi cael 16,026.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Caint eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am dwyll etholiadol a bod eu hymchwiliad yn parhau.

Cafodd honiadau eu gwneud am ymddygiad amheus ar ôl oedi hir cyn cyhoeddi’r canlyniadau.

Yn fuan wedyn, fe wnaed honiadau o dwyll ar Twitter ar ôl i Ukip hawlio buddugoliaeth yn etholiad y cyngor lleol, gyda’r blaid yn cymryd rheolaeth o’r awdurdod.

Roedd Nigel Farage wedi ymddiswyddo fel arweinydd y blaid ar ôl iddo fethu ag ennill y sedd, ond mae pwyllgor gweithredol y blaid wedi gwrthod ei ymddiswyddiad ac mae’n parhau’n arweinydd.