Mae cwmni awyrennau easyJet wedi cyhoeddi elw o £7 miliwn yn chwe mis cynta’r flwyddyn.

Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni wneud elw yn ystod  misoedd y gaeaf a dywedodd bod hynny o ganlyniad i ddiwedd llwyddiannus i’r tymor sgïo. Roedd 28.9 miliwn o deithwyr wedi hedfan gyda’r cwmni – cynnydd o 3.8% ar yr un cyfnod y llynedd.

Roedd y grŵp wedi gwneud elw o £7 miliwn cyn treth yn y chwe mis hyd at 31 Mawrth, o’i gymharu â cholled o £53 miliwn flwyddyn yn ôl.

Y tro diwethaf i easyJet wneud elw yn ystod misoedd y gaeaf oedd yn 2002.

Dywed easyJet, sydd â fflyd o 230 o awyrennau, ei fod yn disgwyl i brisiau is am olew arwain at ostyngiad rhwng £95miliwn a £120 miliwn mewn biliau tanwydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Serch hynny, mae’r cwmni wedi rhybuddio bod 600 o deithiau wedi cael eu canslo fis diwethaf oherwydd y streic gan weithwyr rheoli traffig awyr yn Ffrainc a bod hynny’n debygol o gael effaith ar elw blynyddol y cwmni.