Llys y Goron Caerdydd
Roedd meddyg o Gas-gwent yn gyrru 20mya dros y cyfyngiad cyflymder pan laddodd beiciwr modur, clywodd rheithgor ddoe.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr anesthetydd Vincent Hamlyn, 33, a’r beiciwr modur Kevin Morgan, 60 oed, ill dau wedi bod yn refio injan eu cerbydau ar ôl iddyn nhw gychwyn o oleuadau traffig.
Disgrifiodd llygad dystion sut yr oedd y ddau wedi ceisio bod “ar y blaen” wrth iddyn nhw ymuno â ffordd ddeuol.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, dioddefodd Kevin Morgan anafiadau difrifol i’w ben a bu farw yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr erlyniad fod y ddau yn gyrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr gyda’r diffynnydd yn teithio 62 i 68 milltir yr awr mewn car BMW Z4, a Kevin Morgan yn teithio ar gyflymder o 56mya ar ei feic Kawasaki.
Digwyddodd y ddamwain ger cyfnewidfa Coldra ar yr M4 ger Casnewydd, ar 21 Mehefin y llynedd.
Roedd Kevin Morgan yn aelod o glwb Superbikes De Cymru ac roedd ar daith feic 60 milltir gyda’i ffrind, Gregory Sweeting, ar y pryd.
Dangosodd archwiliad post-mortem fod y tad i dri o Gwmbrân wedi dioddef anafiadau “enfawr” i’w ben.
Wrth gael ei groesholi, gwadodd Gregory Sweeting awgrymiadau mai ei ffrind oedd ar fai am dynnu o flaen y BMW.
Mae Vincent Hamlyn, o Tutshill, ger Cas-gwent, yn gwadu un cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r achos yn parhau.