Ed Miliband
Yn ôl adroddiadau fe fydd Ed Miliband yn camu o’i swydd fel arweinydd y Blaid Lafur ar ôl colledion enfawr yn yr Alban ac wrth i David Cameron fod yn agos at ennill mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Llafur ar hyn o bryd wedi colli 26 sedd ers 2010.

Mae disgwyl i Ed Miliband gyrraedd pencadlys y blaid yn fuan. Mae staff y blaid a newyddiadurwyr wedi dechrau ymgasglu yno.