David Cameron a'i wraig Samantha, yn cyrraedd rhif 10
Mae David Cameron yn paratoi am dymor arall fel Prif Weinidog wrth i’r Blaid Geidwadol sicrhau mwyafrif clir yn Nhŷ’r Cyffredin.

Daeth cadarnhad bore ma eu bod  nhw wedi ennill 326 o seddi, sef digon iddyn nhw ffurfio llywodraeth fwyafrif.

Roedd David Cameron a’i wraig Samantha, wedi cyrraedd nol yn Rhif 10 y bore ma ac mae’r Prif Weinidog yn cael cyfarfod gyda’r Frenhines ym Mhalas Buckingham ar hyn o bryd.

Mewn noson ddramatig fe lwyddodd yr SNP i ennill 56 o’r 59 sedd gan adael dim ond un AS Llafur yn yr Alban. Ymhlith y rhai a gollodd eu seddi roedd arweinydd Llafur yn yr Alban, Jim Murphy, ynghyd a Douglas Alexander a Margaret Curran, ac aelodau blaenllaw o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Danny Alexander a Charles Kennedy.

Roedd hi’n noson drychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a dywedodd yr arweinydd Nick Clegg ei fod wedi bod yn “noson greulon” i’r blaid. Roedd aelodau blaenllaw eraill gan gynnwys yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable, yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey a’r gweinidog cyfiawnder Simon Hughes hefyd wedi colli eu seddi.

Mae Ed Miliband  wedi cadw ei sedd yn Doncaster North ond dywedodd bod yr etholiad wedi bod yn “siomedig iawn ac anodd” i Lafur. Dywedodd y bydd gan “y llywodraeth nesaf” gyfrifoldeb enfawr i geisio cadw’r DU gyda’i gilydd.

Mae Canghellor yr wrthblaid Ed Balls hefyd wedi colli ei sedd yn Morley ac Outwood i’r Ceidwadwyr.

Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynglŷn â dyfodol Ed Miliband, Nick Clegg a Nigel Farage bore ma.

‘Dod a’r wlad at ei gilydd’

Mae David Cameron wedi cadw ei sedd yn Witney, gan gyhoeddi ei fod am fwrw mlaen gyda refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd ac adeiladu ar yr economi gadarn.

Ychwanegodd ei fod eisiau “dod a’r wlad at ei gilydd, cadw ein DU gyda’i gilydd” a chyflwyno addewidion ynglŷn â  datganoli i Gymru a’r Alban.

Ukip

Mae Nigel Farage wedi methu a chipio sedd yn etholaeth South Thanet, lle mae oedi wedi bod yn y cyfri. Mae Farage wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo ar unwaith fel arweinydd Ukip os na fydd yn ennill y sedd. Fe gollodd Mark Reckless o Ukip ei sedd yn Rochester a Strood i’r Ceidwadwyr.

Serch hynny roedd nifer y pleidleisiau a gafodd y blaid wedi cynyddu’n sylweddol er nad yw wedi cynyddu nifer ei ASau.

Mae’r Blaid Werdd wedi cadw un sedd yn y Senedd, gyda Caroline Lucas yn dal ei gafael ar Brighton Pavilion.