Y Prif Weinidog David Cameron
Dywed y Prif Weinidog David Cameron ei fod yn ffyddiog fod y Torïaid yn ennill yr holl ddadleuon wrth i ddydd yr etholiad ddynesu.

Mewn rali yng Nghaerfaddon, pwysodd ar gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip i bleidleisio’n dactegol i rwystro Llafur rhag ennill grym, ac apeliodd hefyd ar Dorïaid sy’n meddwl aros adref i ddefnyddio’u pleidlais.

“Boed ar sail y dewis o gynlluniau, y dewis o dimau, y dewis o arweinwyr, y dewis o ran y ddyled, y dewis ar drethi, mae’r holl ddadleuon o’n plaid ni,” meddai.

“Mae gennym dri diwrnod ar ôl i wneud y dadleuon hyn ac mae’r cyfan yn crynhoi o gwmpas un peth, ac un syniad, sef yr economi.

“Pan fyddwch chi yn y bwth pleidleisio, gyda’r bensel yn eich llaw, gofynnwch y cwestiwn hwn i chi eich hun: ‘ydw i’n ymddiried yn Ed Miliband i redeg economi Prydain?’

‘Anhrefn economaidd’

“I bleidleiswyr yn etholaethau’r Democratiaid Rhyddfrydol, yr unig ffordd o osgoi Miliband/SNP ac anhrefn economaidd yw pleidleisio i’r Ceidwadwyr y tro hwn.

“I bleidleiswyr Ukip, yr unig ffordd o osgoi Miliband a’r SNP yw pleidleisio i’r Ceidwadwyr y tro hwn. Nigel Farage yw’r drws cefn i lywodraeth Lafur.

“Ac i gyn-bleidleiswyr Ceidwadol, a all fod yn meddwl ddwywaith am droi allan, trowch allan oherwydd os yw’r genedl am osgoi Miliband/SNP ac anhrefn economaidd mae’n rhaid ichi bleidleisio.”