Jim Murphy, arweinydd Llafur yr Alban (llun: PA)
Cafodd lleisiau arweinydd Llafur yr Alban, Jim Murphy a’r comedïwr Eddie Lizzard eu boddi gan brotestwyr wrth ymgyrchu yn Glasgow y prynhawn yma.

Roedd y protestwyr yn bloeddio ‘traitor’ a ‘warmonger’ a ‘Red Tories Out’ ar Jim Murphy, ac fe fu’n rhaid i’r ddau adael wrth i’r gweiddi a’r gwthio fynd o ddrwg i waeth.

Mae’r SNP yn gwadu bod ganddyn nhw unrhyw ran yn y brotest, ac mae’n ymddangos fod y protestwyr yn rhan o grŵp asgell chwith o blaid annibyniaeth sydd wedi tarfu ar ddigwydiadau eraill tebyg yn y gorffennol.

Wrth feirniadu’r protestwyr, meddai Jim Murphy:

“Ddylai fod dim lle i’r math yma o genedlaetholdeb ymosodol yn ein hetholiad.

“Mae gennym ychydig ddyddiau tan y gallwn ni gicio Cameron allan, ychydig ddyddiau i newid ein gwlad am byth, a chawn ni mo’n rhwystro gan y math yma o genedlaetholdeb ymosodol, mae’n wrth-ddemocrataidd.

“Mae’r Alban, y blaid Lafur a phobl yr Alban yn llawer gwell na’r math yma o genedlaetholdeb ymosodol.”