Mae papur newydd The Guardian wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Ed Miliband a’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol, er gwaethaf “amheuon”.

Dywedodd y papur newydd, wnaeth gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010, fod y glymblaid “wedi rhedeg ei chwrs”, mewn erthygl olygyddol a gyhoeddwyd llai nag wythnos cyn y diwrnod pleidleisio.

Ddoe, cyhoeddodd The Financial Times ei fod yn cefnogi’r Ceidwadwyr, gan ymuno â The Spectator, The Economist a The Sun wrth gefnogi David Cameron i aros yn Rhif 10 – er bod papur The Sun yn Yr Alban yn cefnogi’r SNP.

Daeth y gefnogaeth wrth i Nicola Sturgeon ddweud mai amharodrwydd Ed Miliband i weithio gyda’r SNP er mwyn atal y Torïaid fydd yr hoelen olaf yn arch y Blaid Lafur yn Yr Alban.

Yn ystod dadl deledu gyda David Cameron a Nick Clegg neithiwr, dywedodd Ed Miliband na fyddai’n taro bargen â chenedlaetholwyr Yr Alban, hyd yn oed petai Llywodraeth Lafur yn dibynnu ar hynny.

Mewn rali yng Nghaerdydd heddiw, fe wnaeth Ed Miliband ategu hynny, gan ychwanegu nad oedd am rannu grym gyda Phlaid Cymru ychwaith.