Mae Banc Lloyds, sy’n rhannol yn nwylo’r cyhoedd, wedi cyhoeddi elw chwarter o £2.18 biliwn – cynnydd o 21%.
Mae hynny’n golygu y bydd yn talu difidend i gyfranddalwyr ddwy waith eleni ac fe gododd gwerth cyfrannau o 3% ar ôl cyhoeddi’r newyddion.
Roedd yr elw’n uwch na’r disgwyl ac un rheswm yw fod llai o iawndal wedi’i dalu am gam werthu yswiriant PPI.
Er hynny, fe fydd yr elw yn y diwedd £660 miliwn yn is oherwydd costau cael gwared ar fanc y TSB a oedd yn rhan o’r grŵp.
Gwerthu rhagor
Yn ystod ymgyrch yr etholiad, mae’r Canghellor, George Osborne, wedi cyhoeddi cynllun i werthu gwerth £4 biliwn o gyfrannau’r banc i fuddsoddwyr cyffredin.
Mae’r Llywodraeth yn dal i fod yn berchen ar un o bob pump o’r cyfrannau ar ôl gorfod ymyrryd i achub y banc adeg y chwalfa ariannol.
Mae hynny’n ostyngiad ar y cyfran gwreiddiol, sy’n golygu bod £10 biliwn eisoes wedi cael eu talu’n ôl i’r Trysorlys.