Roedd disgwyl i 37,800 o redwyr amatur a phroffesiynol ddod ynghyd i greu’r marathon mwyaf yn hanes Llundain heddiw.

Fe ddechreuodd y rasys am 9 o’r gloch.

Roedd disgwyl i 750,000 o bobol ymgasglu ar strydoedd y ddinas i wylio’r digwyddiad wrth i Paula Radcliffe redeg y ras am y tro olaf.

Radcliffe sy’n dal y record am yr amser cyflymaf yn y ras, gan orffen mewn 2 awr, 15 munud a 25 eiliad yn 2003.

Ond mae hi’n rhedeg ymhlith y rhedwyr amatur heddiw, yn hytrach na chystadlu yn ras y menywod.

Ymhlith y ffefrynnau yn ras y dynion mae Wilson Kipsang wrth iddo anelu i fod y pedwerydd dyn i ennill y ras dair gwaith.

Yn ras y cadeiriau olwyn, mae David Weir yn anelu am seithfed buddugoliaeth.