Mae ditectifs yng nghanolbarth Lloegr wedi arestio dau o bobol mewn cysylltiad ag ymosodiad ar y stryd a adawodd cefnogwr pel-droed yn ymladd am ei fywyd.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod dau ddyn 18 oed o Wolverhampton wedi’u harestio yn gynharach yr wythnos hon mewn cysylltiad ag ymosodiad ar Nic Cruwys.

Mae’r ddau bellach wedi’u rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymholiadau’n parhau i’r ymosodiad a ddigwyddodd yn Wolverhampton ar Fawrth 7.

Mae cyfanswm o 9 o bobol eraill, rhwng 14 a 21 oed, wedi bod yn y ddalfa cyn hyn, yn cael eu holi am y digwyddiad.

Fe ddioddefodd Nic Cruwys, tad 44 oed o Hemel Hempstead, anafiadau difrifol i’w ben wedi’r ymosodiad, ac mae apel ar-lein wedi codi mwy na £37,000 er mwyn talu am driniaeth a gofal iddo.