David Cameron
Fyddai ASau’r Alban ddim yn cael pleidleisio ar ran o Gyllideb 2016 pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.
Heddiw, fe fydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn dweud ei fod yn bwriadu gweithredu EVEL – pleidlais i’r Saeson ar ddeddfau’r Saeson – o fewn blwyddyn i ddod yn ôl i rym.
Ond, yn achos y Gyllideb, fe fyddai hynny’n cynnwys ASau o Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd, wrth i’r Alban gael yr hawl i bennu lefel ei threth incwm ei hun.
‘Annheg’
Dim ond am Loegr y mae David Cameron yn sôn yn y dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.
“Fyd ASau Seisnig ddim yn cael pleidleisio ar dreth incwm pobol yn Aberdeen a Chaeredin, tra bod ASau Albanaidd yn gallu pleidleisio ar y dreth yr ydych yn ei thalu yn Birmingham neu Gaergaint neu Leeds,” meddai.
“Dyw hynny ddim yn deg a gyda phleidleisiau i’r Saeson tros ddeddfau i’r Saeson byddwn yn cywiro hynny.”
Fe fydd David Cameron hefyd yn rhybuddio rhag partneriaeth rhwng Llafur a phlaid yr Alban yr SNP, gan ddweud fod y cenedlaetholwyr o blaid rhagor o fewnfudo.